Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Tachwedd 2023
Amser:
13:30 -
16:31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13542
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
David Pritchard, Social Care Wales Pushpinder Mangat, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Abyd Quinn-Aziz, Stand Up to Racism Wales Harriet Barnes, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Ceri Harries, Conffederasiwn GIG Cymru Yusuf Ibrahim, Colegau Cymru Sue James, BAMEed Wales Dean Pymble, Show Racism the Red Card |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Sara Moran (Ymchwilydd) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Ymchwiliad i’r modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu: sesiwn dystiolaeth un
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Ceri Harries, Conffederasiwn y GIG
David Pritchard, Gofal Cymdeithasol Cymru
Yr Athro Pushpinder Mangat, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Abyd Quinn-Aziz, BASW Cymru
3 Ymchwiliad i’r modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu: sesiwn dystiolaeth dau
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Yusuf Ibrahim, Colegau Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro
Dean Prymble, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Sue James, BAMEed Cymru
Harriet Barnes, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
4 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ynghylch trais ar sail rhywedd
4.2 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghylch trais ar sail rhywedd
4.3 Gohebiaeth gan Whitehead-Ross Education ynghylch tlodi plant
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
6 Ymchwiliad i’r modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.
7 Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: adroddiad monitro
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad, gan gytuno y dylid ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion.